Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (127) |
Datganiad Gan Y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Archwylio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ar 29 Ebrill.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Elin Jones (Ceredigion): Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn sgîl y tân diweddar?
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.12
4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 15.20
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.55
6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diddymu'r cyrff sy'n gysylltiedig â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol
Dechreuodd yr eitem am 16.25
7. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Colli swyddi yn Rowecord yng Nghasnewydd
Dechreuodd yr eitem am 16.57
Daeth y cyfarfod i ben am 17:20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 1 Mai 2013